Map yn dangos lleoliad Peshawar ym Mhacistan (o wefan wikipedia)
Mae 34 o bobl wedi cael eu lladd a bron i 100 wedi cael eu hanafu wedi dau ffrwydrad o fewn munudau i’w gilydd yn ninas Peshawar yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Dyma un o’r ymosodiadau gwaethaf ers i filwyr America ladd Osama bin Laden ychydig dros fis yn ôl.

Fe ddigwyddodd y ffrwydradau ychydig wedi hanner nos mewn ardal o’r ddinas lle mae llawer o filwyr yn byw.

Ffrwydrad cymharol fychan oedd y cyntaf, a ddaeth â phlismyn ac achubwyr ato, ond fe ddigwyddodd ffrwydrad anferth funudau’n ddiweddarach gan achosi’r lladd a’r anafiadau.

Roedd yr ail ffrwydrad wedi cael ei achosi gan hunan fomiwr ar gefn beic modur yn cludo 22 pwys o ffrwydron.

Does dim un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb, ond mae Taliban Pacistan wedi addunedu cyflawni ymosodiadau i ddial ar y cyrch gan America i ladd Osama bin Laden.