Vince Cable
Mae’r Ysgrifennydd Busnes wedi dweud y bydd yna bwysau ar Lywodraeth San Steffan i newid y gyfraith ar streicio pe bai gweithredu diwydiannol yn bygwth yr economi.

Bydd Dr Vince Cable yn cyfarch cynhadledd flynyddoedd undeb GMB heddiw, gan gyfaddef ei fod yn disgwyl “cyfnod anodd” o ymgyrchu yn erbyn toriadau gwario’r llywodraeth.

Yn ystod ei araith fe fydd yn dweud ei fod yn disgwyl i “rhan helaeth o’r sector gyhoeddus” ymuno â streic diwrnod o hyd yn hwyrach yn y mis.

Fe fyddwn nhw’n protestio yn erbyn toriadau gwario, swyddi, cyflogau a phensiynau ar 30 Mehefin.

Mae arweinwyr undebau wedi rhybuddio fod disgwyl i dri chwarter miliwn o athrawon, darlithwyr, gweithwyr sifil a gweithwyr eraill o’r sector gyhoeddus gymryd rhan.

“Bydd yr un hen leisiau yn galw am streic gyffredinol a chreu aflonyddwch mawr,” meddai Vince Cable yn ei araith.

“Bydd hyn wrth fodd y cyfryngau ac wrth fodd y rheini sydd eisiau newid y gyfraith ar streicio, hefyd.

“Does dim amheuaeth ein bod ni ar ddechrau cyfnod anodd. Mae angen osgoi bod yn rhy benboeth.

“Ar hyn o bryd does yna ddim llawer iawn o streicio wedi bod yn digwydd, yn enwedig yn y sector gyhoeddus. Os yw’r patrwm hwnnw yn parhau does yna ddim cyfiawnhad dros newid y gyfraith ar streicio.

“Ond pe bai pethau’n newid a streicio yn bygwth gwneud newid difrifol i economi a gwead cymunedol ein gwlad, bydd yna ragor o bwysau arnom ni i weithredu.

“Mae hynny’n rhywbeth yr ydych chi, a fi, eisiau ei osgoi.”