Cymdeithas yn ymgyrchu tros S4C
Fe fydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod sut all cyfraith Ewrop atal y bygythiad i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop wythnos nesaf (Dydd Mawrth, Mehefin 7).

Yn ystod yr ymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbwrg bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop Androulla Vasilliou.

Fe fyddan nhw hefyd yn cyfarfod â phennaeth Secretariat Siarter Ewrop dros ieithoedd leiafrifol Alexey Kozhemyakov sydd yn goruwchwilio’r cytundeb iaith Ewropeaidd sydd yn ceisio ymrwymiad gwledydd i ddarparu gwasanaethau teledu mewn ieithoedd fel y Gymraeg.

Rhai o aelodau’r ddirprwyaeth, sydd wedi ei threfnu gyda chymorth yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans, fydd Bethan Williams (Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg); Menna Machreth, llefarydd y Gymdeithas ar faterion yn ymwneud â darlledu, a Simon Brooks, aelod o’r grwp ymgyrchu.

Y cyfarfodydd

Dydd Mawrth, Mehefin 7 – Comisiynydd Diwylliant Ewrop, Androulla Vasilliou

Dydd Mercher, Mehefin 8 – Secretariat Siarter Ewrop, Alexey Kozhemyakov