Heddlu
Mae pedwerydd person wedi marw ar ôl damwain rhwng dau gar yng nghanolbarth Lloegr.
Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod gwr 21 mlwydd oed, a fu mewn cyflwr difrifol, wedi marw y bore yma.
Fe gafodd gwragedd 28, 35 a 40 oed eu lladd yn y ddamwain ger pont dros Gamlas Walsall yn West Bromwich yn gynnar heddiw.
Yn ôl llefarydd, roedd y dyn a fu farw yn eistedd yn sedd flaen y car Citroen Saxo a fu mewn gwrthdrawiad â Ford Fiesta yn Greets Green Road tua chwarter i un fore heddiw.
Roedd y ddau gerbyd yn cario pedwar o bobol pan ddigwyddodd y ddamwain.
Mae pedwar o bobol wedi goroesi’r ddamwain – merch 11 mlwydd oed, gwragedd 28 a 36 mlwydd oed, a dyn 19 mlwydd oed.