Heddlu
Mae dyn 19 mlwydd oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ne Llundain.
Fe gafodd swyddogion Scotland Yard eu galw i’r gyffordd rhwng Vassall Road a Frederick Crescent yn ardal Stockwell neithiwr.
Fe aeth Gwasanaeth Ambiwlans Llundain hefyd yno, ar ôl derbyn galwad fod ymladd yn yr ardal tua deng munud i unarddeg o’r gloch.
“Unwaith gyrhaeddon nhw, fe welodd y swyddogion ddyn 19 mlwydd oed oedd wedi cael ei drywanu nifer o weithiau,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.
“Fe gafodd i gludo i ysbyty yn ne Llundain, ac mae’n dal I fod yno mewn cyflwr difrifol.”
Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, yn ôl y llefarydd, ac mae’r heddlu’n parhau i wneud ymholiadau yn yr ardal.