Milwyr yn Affganistan
 Fe lwyddodd milwr a laddwyd yn Affganistan i achub bywydau eraill cyn syrthio. Dyna deyrnged ffrindiau’r Corporal Michael Pike, 26, o Huntly yn yr Alban, iddo.

Fe fu farw’r milwr wrth i’w batrol gael ei daro gan ymosodiad o grenadau yn ardal Lashkar Gah yn Helmand, ddydd Gwener diwetha’.

Mae ei gyd-filwyr yn 4ydd Fataliwn, Catrawd Frenhinol yr Alban, yn dweud bod y ffordd gyflym yr ymatebodd e wedi achub bywydau milwyr eraill o’i gwmpas.

“Fe fuodd e farw yn gwneud y gwaith yr oedd e’n caru ei wneud,” meddai ei gyfeillion. “Ond wnaeth e ddim marw heb ymladd yn ôl.”

Mae’r Corporal Pike wedi ei ddisgrifio yn “ddyn teulu cariadus a gofalus”. Mae’n gadael gwraig, Ida, a dau o blant, Joshua ac Evelynn.