Mi fydd Llywodraeth Prydain yn herio’r penderfyniad yn y Llys Apêl heddiw bod cyn-Bennaeth y Gwasanaethau Plant wedi ei diswyddo yn anheg ac yn groes i’r gyfraith, yn dilyn marwolaeth bachgen 17 mis oed oedd yn cael ei alw’n Babi P.

Heddiw fe ddywedodd tri o farnwyr y Llys Apêl bod y cyn-Weinidog Addysg Ed Balls a Chyngor Haringey wedi bod yn “anheg” pan wnaethon nhw ddiswyddo Sharon Shoesmith dair blynedd yn ôl.

Dywedodd Ms Shoesmith ei bod “wrth ei bodd” gyda’r penderfyniad, ond mae Adran Addysg Llywodraeth Prydain yn bwriadu herio’r penderfyniad.

Mae Cyngor Haringey hefyd yn gofyn am ganiatâd i apelio.