Tywysog William a Kate Middleton
Mae cwmni betio William Hill yn rhoi’r cyfle i bobol ddyfalu faint o funudau y bydd yn rhaid i’r Tywysog William aros nes y bydd ei ddarpar-wraig yn cyrraedd Abaty Westminster.

Mae’r cwmni – a fydd yn ei ail-frandio ei hun am y dydd dan y label ‘William and Kate’ yn rhoi 20 o fetiau £1 am ddim ym mhob un o’i 2,300 o siopau ddydd Gwener, Ebrill 29.

Fe fydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio eu betiau er mwyn dyfalu pa mor gynnar neu hwyr fydd Kate Middleton yn cyrraedd yr allor.

“Mae’r diddordeb yn y briodas frenhinol wedi bod yn rhyfeddol,” meddai llefarydd ar ran William Hill.

“Mae ganddon ni brofiad, wrth gwrs, o wneud y math yma o beth o’r blaen, gan mai ni oedd y cwmni cyntaf i dderbyn betiau ar briodas Charles a Di yn 1981. Rydyn ni eisoes wedi derbyn betiau o 86 o wledydd gwahanol.

“Rydyn ni’n derbyn betiau am bob math o bethau yn ymwneud â’r briodas,” meddai wedyn, “fel p’un ai fydd Dug Caeredin yn syrthio i gysgu yn ystod y seremoni!”