Mae criw o brotestwyr newid hinsawdd a oedd wedi cynllwynio i gau ail orsaf pŵer mwyaf Prydain wedi cael hawl i apelio yn erbyn eu dedfryd.
Fe gafodd y protestwyr eu heuogfarnu o dresmasu ymosodol.
Roedden nhw ymhlith 100 o bobl gafodd eu harestio pan wnaeth yr heddlu gynnal cyrch yn Ysgol annibynnol Iona yn Sneinton, Nottingham fore ddydd Llun y Pasg, 13 Ebrill y llynedd.
Mae’r 20 protestiwr wedi derbyn llythyrau gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ar ôl adolygiad o weithgareddau swyddog heddlu cudd a oedd yn bresennol yn ystod y gwrthdystiad yng ngorsaf bŵer Ratcliffe-on-Soar.
Fe ddywedodd Keir Starmer QC, y byddai’r protestwyr yn cael hawl i apelio yn erbyn y dedfrydau yn sgil adolygiad gan Clare Montgomery QC o dystiolaeth na chafodd ei ddatgelu ar ôl gweithgareddau’r heddwas cudd cudd.