Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i ymosodiad ar ddynes 45 blwydd oed ym Mhentwyn.

Fe wnaeth y ddynes ddioddef toriadau a chleisiau i’w hwyneb ac ysgwydd yn dilyn y digwyddiad rhwng 1am a 1.30am fore Sadwrn yn Oakleafe Drive.

Mae ymchwiliadau o dy i dy wedi’u cynnal yn yr ardal ac mae swyddogion heddlu yn apelio am wybodaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 029 2077 4233 neu’n ddienw  â Thaclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.