Symbol y Cyngor Cyfiawnder Teuluoedd
Mae plant sy’n cael eu dal ynghanol ysgariad eu rhieni’n gorfod aros am gymaint â blwyddyn i wybod beth yw eu dyfodol, meddai adroddiad newydd.
Mae’r Adolygiad o Gyfiawnder Teuluoedd yn dweud bod trefn y Llysoedd Teulu yn “ddychrynllyd” a bod dadleuon yn cymryd “llawer rhy hir” i’w datrys.
Maen nhw wedi galw am ddiwygio’r drefn gan gynnwys creu Gwasanaeth Cyfiawnder Teuluoedd i oruchwylio’r gwahanol asiantaethau sy’n rhan o’r prosesau.
“Mae cyfiawnder i deuluoedd dan straen mawr,” meddai Cadeirydd Panel yr Adolygiad, David Norgrove. “Gall plant orfod aros am gymaint â blwyddyn cyn setlo’u dyfodol. Mae hynny’n ofnadwy.
“Mae’r diffyg technoleg gwybodaeth a gwybodaeth am reoli yn anhygoel ac, o ganlyniad, does fawr ddim gwybodaeth am berfformiad [y gwasanaeth] nac am gostau.
Un barnwr
Ymhlith yr argymhellion eraill roedd galwad am sicrhau mai’r un barnwr sy’n delio ag achos o’r dechrau i’r diwedd ac am gydnabod lle teidiau a neiniau ym mywydau plant.
Y Llywodraeth yn Llundain oedd wedi comisiynu’r adroddiad ac maen nhw’n dweud eu bod yn edrych ymlaen at argymhellion terfynol y panel yn nes ymlaen eleni.