Alex Salmond
Mae’r SNP wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o “ golli eu pwyll” a mabwysiadu nifer o’u polisïau gorau.
Dywedodd arweinydd y blaid, Alex Salmond, fod polisïau Llafur a’r SNP yn debyg iawn wrth iddynt ddechrau ymgyrchu ar gyfer Etholiadau Senedd yr Alban ar 5 Mai.
Roedd y Blaid Lafur wedi “newid ei safbwynt ar rewi treth cyngor a ffioedd dysgu myfyrwyr,” meddai.
“Mae’r Blaid Lafur wedi gwneud tro pedol ar ôl penderfynu gosod ffioedd dysgu, nid yn unig yn yr Alban ond yn Lloegr hefyd,” meddai.
“Mae penderfyniad Llafur i fabwysiadu polisïau’r SNP yn dangos cryfder ein polisïau, a’n llwyddiant mewn llywodraeth dros y pedair blynedd diwethaf,” meddai.
“Rhaid cydnabod bod y Blaid Lafur wedi mabwysiadu polisïau llwyddiannus yr SNP am eu bod nhw wedi colli eu pwyll wrth sylweddoli pa mor llwyddiannus oedden nhw.”
Addawodd Alex Samond y byddai’r rhewi treth cyngor am ddwy flynedd, cyn ei ddisodli â threth incwm lleol.