Llys y Goron Abertawe
Bydd rhaid ail ddechrau yr achos llys yn erbyn labrwr sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar o bobol â gwn saethu yn Sir Benfro.

Cyhoeddodd y barnwr heddiw y bydd y rheithgor yn cael eu rhyddhau, ar ôl i broblem ddod i’r amlwg gydag un ohonyn nhw.

Fe fydd yr achos llys newydd yn dechrau bore yfory ar ôl penodi rheithgor newydd yn Llys y Goron Abertawe.

Dechreuodd yr achos llys yn erbyn John Cooper, 66, o Dreletert, ger Abergwaun, ddydd Iau. Mae wedi ei gyhuddo o ladd pedwar o bobol yn 1980.

Mae disgwyl i’r achos llys newydd barhau 10 wythnos, sy’n golygu na fydd yn dod i ben nes mis Gorffennaf.

Eglurhad

Esboniodd yr Ustus Griffith Williams yn y llys bore ma pam ei fod wedi penderfynu rhyddhau’r rheithgor.

“Fe ddylwn i ddweud bod materion wedi dod at fy sylw wrth eistedd yn fy siambrau’r bore ma yn ymwneud â rheithiwr,” meddai.

“Penderfynais nad oedd dewis ond rhyddhau’r rheithiwr o’i ddyletswyddau. Wrth wneud hynny fe ddylwn i ychwanegu nad oes beirniadaeth o gwbl o’r rheithiwr unigol hwnnw.

“Mae hi nawr yn angenrheidiol ein bod ni’n rhyddhau’r rheithgor cyfan ac yn dechrau eto drwy ddewis rheithgor newydd.

“Yn ffodus mae mwy na 40 o bobol oedd yn rhan o’r panel gwreiddiol ar gael o hyd.”

Ychwanegodd y gallai rhai o’r rheithwyr fu’n rhan o’r rheithgor gwreiddiol ddychwelyd yn rhan o’r rheithgor newydd.

Y cyhuddiadau

Mae John Cooper wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ffermwr Richard Thomas, 58, a’i wraig Helen, 54, yn eu cartref yn Sir Benfro yn 1985.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r teithiwr Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Cafodd y pâr priod, o Swydd Oxford, eu lladd wrth iddyn nhw gerdded ar hyd llwybr arfordirol y sir yn 1989.

Mae’r pensiynwr hefyd wedi ei gyhuddo o dreisio, ymosod mewn modd anweddus, a pum achos o geisio lladrata ger Aberdaugleddau yn 1996.

Mae’n gwadu’r honiadau yn ei erbyn.