Cyfrifiad 2011
Ddeng niwrnod yn unig sydd gan bobl i lenwi eu holiaduron ar gyfer y cyfrifiad ar-lein neu ei anfon yn ôl drwy’r post cyn y dyddiad cau.

Bydd un o’r 35,000 o gasglwyr y cyfrifiad yn ymweld â’r cartrefi hynny nad yw eu holiaduron wedi’u dychwelyd erbyn 6 Ebrill.

Nod y casglwyr fydd yn cynnig help a chyngor i’r bobl hynny sydd ag anawsterau wrth lenwi eu ffurflenni ar gyfer y cyfrifiad.

Byddant hefyd yn rhoi holiaduron newydd os byddant wedi cael eu colli neu eu difrodi.

Mae unrhyw un sy’n gwrthod llenwi yr holiadur yn wynebu dirwy o hyd at £1,000. Cafodd 38 o bobol eu herlyn am beidio a llenwi holiadur cyfrifiad 2001.

Caiff pob holiadur wedi’u llenwi eu tynnu oddi ar y rhestr wrth iddynt gael eu hanfon yn ôl.

“Rydym yn annog pobl i ymateb yn gyflym ac yn sicr o fewn y 10 niwrnod nesaf os nad oes angen help casglwr arnynt,” meddai Glen Watson, Cyfrawryddwr y Cyfrifiad.

“Trwy gymryd rhan, byddant yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr, ac mae’n lleihau’r ymweliadau y bydd angen i’r casglwyr eu gwneud.

“Mae’n well byth gymryd rhan ar lein – mae’n helpu i gadw’r costau i lawr.”

Gellir llenwi holiaduron ar lein yn gyflym yn http://www.cyfrifiad.gov.uk/ neu eu hanfon yn ôl am ddim yn yr amlen a ddarparwyd erbyn y dyddiad cau, sef 6 Ebrill.