Mae ffynidwydden sy’n ymestyn dros 60 metr wedi ei chydnabod yn y goeden dalaf yng Nghymru, cyhoeddwyd heddiw.
Gall y goeden anferth ar ystad Llyn Efyrnwy ger Llanwddyn, a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, hawlio mai hi yw’r peth byw talaf yng Nghymru.
Etifeddodd y goeden y teitl ar ôl i’r comisiwn orfod torri daliwr y record flaenorol i lawr oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch.
Mae’r goeden dalaf newydd yn mesur 60.62 metr – ychydig yn fyrrach na’i rhagflaenydd a oedd yn mesur 63.79 metr o uchder – ac mae’n gymydog agos i’r “pencampwr” blaenorol.
“Roedd gweld y goeden dalaf flaenorol yng Nghymru yn cael ei chwympo yn drist,” meddai Mike Whitley, Rheolwr Ardal Leol Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
“Fodd bynnag, cymerodd ond deuddydd i gadarnhau ei holynydd, sy’n ffynidwydden Douglas arall sy’n digwydd bod yn tyfu’n agos iawn at y goeden flaenorol, felly nid oedd rhaid i ni chwilio’n bell iawn.”
Y goeden dalaf flaenorol
Dioddefodd y goeden dalaf flaenorol yng Nghymru yn ystod tywydd stormus y gaeaf ac roedd rhaid ei thorri i lawr ar ôl i Mike Whitley sylwi ar ddifrod pan oedd yn cynnal gwiriadau rheolaidd.
Roedd ganddi ddau grac sylweddol ar y prif goesyn, a penderfynwyd ei thorri i lawr am ei bod yn beryglus i’r cyhoedd a staff y goedwigaeth.
Yn ogystal â’r goeden dalaf yng Nghymru, hi oedd y goeden dalaf ar y cyd yng Ngwledydd Prydain, gan rannu’r record gyda choeden yn Argyll yn yr Alban.
Roedd y goeden yn 124 blwydd oed.
Mesur y goeden newydd
Cafodd uchder y goeden dalaf newydd ei fesur gan Stuart Clarke o Treefellers – yr un cwmni coedyddiaeth a gwympodd y pencampwr blaenorol.
Cadarnhawyd daliwr newydd y record gan David Alderman, Cyfarwyddwr Cofrestr Coed Ynysoedd Prydain.
“Mae’r goeden hon yn un o dim ond saith coeden yng Nghymru y credir eu bod tua 60 metr o uchder,” meddai David Alderman.
“A hithau’n 60.62 metr o uchder, dyma’r goeden dalaf yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r ail dalaf yw ffynidwydden fawr 60.5 metr o uchder yn Neuadd Leighton, ger Y Trallwng.”
Cymerodd tuag awr i Stuart Clarke ddringo a mesur y goeden, gan ddefnyddio’r un dull cymeradwy ag y cafodd ei ddefnyddio o’r blaen.