Sian O'Callaghan
Mae timau cŵn arbenigol bellach yn rhan o’r ymdrech i ddod o hyd i Sian O’Callaghan, a aeth ar goll ar ôl gadael clwb nos yn Swindon dros y penwythnos.
Mae arbenigwyr wedi bod yn chwilio yng nghoedwig Savernake ger tref Malborough yn Wiltshire.
Roedd signal o ffôn symudol Sian O’Callaghan yn dangos ei bod yng nghyffiniau coedwig 4,500 erw, tua 32 munud ar ôl gadael y clwb.
Dim ond mewn car y byddai modd gwneud y siwrnai, meddai’r heddlu.
Ddoe roedd tua 400 o’r cyhoedd wedi ymuno gyda heddweision er mwyn chwilio’r goedwig.
Mae’r Ditectif Uwch-arolygydd Steve Fulcher, sy’n arwain yr ymchwiliad wedi dweud eu bod nhw yn agos iawn at ddod o hyd i Sian O’Callaghan.
Mae person dienw cynnig £20,000 i unrhyw un sy’n dod o hyd i’r ferch ifanc.