Gallai swyddi dros dro â chyflog isel fod yr un mor niweidiol i iechyd meddwl pobl â dim gwaith o gwbl, yn ôl ymchwil sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’n debyg y gall pobl ddi-waith hyd yn oed deimlo’n well o ran iechyd meddwl na phobl sydd mewn swyddi dros dro sy’n talu’n wael.

Mae ymchwilwyr yn dweud y dylai polisïau llywodraeth sy’n canolbwyntio ar chwilio am waith hefyd gymryd ansawdd y gwaith i ystyriaeth.

Fe gafodd yr ymchwil gan aelodau o Brifysgol Genedlaethol Awstralia ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Occupational and Environmental Medicine.

“Fe wnaethon ni ddarganfod fod symud o ddiweithdra i swydd o ansawdd gwael yn gysylltiedig â dirywiad amlwg mewn iechyd meddwl,” meddai arweinwyr yr ymchwil.

“Mae hyn yn awgrymu bod ansawdd seicogymdeithasol gwaith yn ffactor pwysig y dylid ei ystyried â gwaith mewn polisi cyflogaeth a lles.”

Mae astudiaethau yn y gorffennol wedi darganfod fod pobl mewn gwaith yn mwynhau iechyd meddwl gwell na’r rhai sy’n ddi-waith. Ond mae llai o astudiaethau wedi ymchwilio sut mae pobl yn teimlo am eu swyddi pan maen nhw mewn cyflogaeth.