Mae eira trwm wedi tagu ffyrdd a rheilffyrdd Ucheldiroedd yr Alban heddiw.

Mae’r tywydd gaeafol hwyr wedi ysgubo ar draws y wlad gan ollwng 15-20cm o eira mewn rhai mannau.

Yn ôl proffwydi’r tywydd fe allai 40cm ddisgyn dros ar y tir uchel.

Mae sawl priffordd wedi cau o ganlyniad i’r eira a threnau rhwng Inverness a Blair Atholl wedi eu canslo.

Roedd Inverness Caledonian Thistle i fod i chwarae Celtic heddiw ond mae’r gêm wedi ei chanslo tan ddydd Mercher.

Mae disgwyl i’r eira atal a dechrau toddi yfory.

“Fe fydyn parhau i fwrw eira ar yr Ucheldiroedd am weddill y dydd, ac ardal Aviemore am weddill y nos,” meddai Daniel Adamson o gwmni tywydd MeteoGoup.

“Yfory fe fydd pethau ychydig bach yn sychach. Fe fydd un neu ddau gentimedr arall yn disgyn ond f fydd pethau llawr sychach.”