William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi wfftio honiadau ei fod ar fin ymddiswyddo.
Mae rhai gwleidyddion a sylwebwyr wedi beirniadu William Hague am y modd y mae o wedi mynd i’r afael â’r gwrthryfel yn Libya.
Roedd yr SAS wedi gwneud cawlach o gyrch i mewn i’r wlad yr oedd William Hague wedi ei awdurdodi.
Yn ogystal â hynny mae ansicrwydd wedi bod ynglŷn â barn y llywodraeth ar atal awyrennau rhag hedfan dros Libya.
Roedd hefyd wedi ei feirniadu am yr arafwch wrth symud Prydeinwyr allan o’r wlad, ac am awgrymu bod y Cyrnol Muammar Gaddafi wedi ffoi i Venezuela.,
Ond mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Sunday Telegraph dywedodd ei fod yn bwriadu aros yn ei swydd, a bod ganddo gefnogaeth y Prif Weinidog, David Cameron.
“Pe bai rhai o’r bobol sy’n fy meirniadu i yn fy nilyn i o gwmpas, fe fyddwn nhw wedi ymlâdd yn llwyr fewn wythnos,” meddai.
“Mae’r Prif Weinidog a mwyafrif yr Aelodau Seneddol Ceidwadol yn hynod gefnogol.
“Mae yna ddigwyddiadau hanesyddol a phwysig iawn yn digwydd ar hyn o bryd.
“Rydw i wedi ysgwyddo’r baich ac rydw i eisiau parhau â’r gwaith yn wyneb unrhyw feirniadaeth.”
‘Brwdfrydedd’
Ychwanegodd ei fod wedi gorfod troi cefn ar lawer iawn o bethau yr oedd yn mwynhau eu gwneud – gwn gynnwys ysgrifennu, rhedeg busnes a chwarae’r piano – er mwyn dychwelyd i reng flaen gwleidyddiaeth.
“Fyddwn i ddim yn rhoi’r gorau i’r holl bethau rheini a dod yn ôl i wleidyddiaeth os nad oedd gen i ddiddordeb yn y gwaith.”
Yn gynharach yr wythnos yma roedd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Menzies Campbell, wedi cwestiynu a oedd William Hague yn mwynhau ei swydd.
“Dydw i ddim yn siŵr a ydi o’n frwdfrydig iawn,” meddai. “Mae o’n swydd galed sy’n galw am lawer iawn o ymroddiad.”