Twr Grenfell yn llosgi (Llun: Natalie Oxford CCA 4)
Mae Pennaeth Brigâd Dân Llundain wedi beirniadu Adran Addysg San Steffan am gynnal ymgynghoriad i benderfynu a ddylai fod gan bob ysgol newydd yn Lloegr daenellwyr dŵr er mwyn ymateb i danau.

Dim ond traean o ysgolion newydd Lloegr sydd â thaenellwr dŵr ar hyn o bryd ac yn ôl Dany Cotton, mae Llywodraeth Prydain “yn chwarae â bywydau plant”.

Mae cynllun o’r fath eisoes yn orfodol yng Nghymru a’r Alban.

Yn ôl Brigâd Dân Llundain, dim ond pedair ysgol newydd allan o 184 yn y ddinas sydd â thaenellwr dŵr ar hyn o bryd.

Dywedodd Dany Cotton wrth raglen newyddion y BBC: “Dw i’n credu ei fod yn warthus. Ro’n i’n meddwl, “Sut allwn ni chwarae â bywydau plant fel’na?

“Dw i jyst ddim yn deall pam na fyddai’n orfodol ac yn ofynnol i osod taenellwr mewn ysgolion sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd.

“A’r hyn dydyn ni ddim am ei weld yw tân mawr mewn ysgol yn arwain at y newid hwnnw.”

Ystadegau

Mae gan lai na thraean o’r ysgolion a gafodd eu hadeiladu yn Llundain ers 2014 daenellwr dŵr.

Ddegawd yn ôl, roedd gan 70% o ysgolion newydd daenellwr.

Mae 1,300 o ysgolion yng ngwledydd Prydain yn wynebu tanau bob blwyddyn sy’n ddigon mawr i alw’r frigâd dân.

Roedd mwy na 700 o danau mewn ysgolion yn Llundain rhwng 2009 a Gorffennaf 2007 – ond dim ond mewn 15 o’r achosion hynny roedd gan yr ysgol daenellwr dŵr.