Mae Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych wedi croesawu’r cynllun i adeiladu 170 o dai cyngor newydd yn y sir.
Dyma’r tro cyntaf i dai cyngor newydd gael eu codi yno ers degawdau, ond maen nhw’n rhybuddio nad yw’n ddigon i ateb y galw lleol.
Roedd Grŵp Plaid Cymru wedi rhoi’r gorau i gynllun Hawl i Brynu gan eu bod yn “rhoi gwerth yn ein stoc dai ac yn credu y dylai’r Cyngor ddarparu tai fforddiadwy”, yn ôl llefarydd.
“Roedd ail ddechrau adeiladu tai Cyngor yn addewid canolog i’n maniffesto ni fel Plaid ym mis Mai, ac fe wnaethom ni ei roi gerbron fel rhan o gynllun corfforaethol y Cyngor Sir.
‘Cam mawr i’r cyfeiriad cywir’
“Rydym wedi gweld sut y mae pobl sy’n dymuno aros yn eu cynefin yn cael eu gorfodi allan oherwydd diffyg tai da forddiadwy. Rydym yn gweld pobol yn rhentu tai o ansawdd gwael sy’n effeithio ar eu hiechyd a lles.
“Mae’r achos dros gael stoc o dai Cyngor newydd yn glir, ac fe wnaethom ni fel Plaid Cymru roi’r achos ymlaen er mwyn sicrhau hyn.
“Rydym, serch hynny, yn gresynu nad oes yna fwy o dai Cyngor yn yr arfaeth. Ond mae hyn yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir.”