Mae Eglwys Loegr yn barod i ystyried bendithio priodasau o’r un rhyw yn dilyn cynnig gan Esgob Henffordd.
Mae’r cynnig yn gofyn am ystyried bendithio cyplau sydd mewn partneriaeth sifil neu sydd wedi priodi mewn seremoni seciwlar.
Yn ôl y cynnig, fyddai’r fath weithred ddim yn groes i egwyddorion yr Eglwys, ac fe allai gweinidogion neu blwyfi unigol ddewis peidio cynnig bendithio.
Dywedodd Esgob Henffordd, y Gwir Barchedig Richard Frith ei fod e wedi cyflwyno’r cynnig yn dilyn cais gan gyplau o’r un rhyw o fewn ei esgobaeth.
Dywedodd fod gofyn eisoes i’r Eglwys ymateb “â gofal ac mewn modd sensitif” i geisiadau.
“Mae’r cynnig, sy’n rhan o ddadl lawer ehangach, yn gofyn am arweiniad ar ddeunyddiau i’w defnyddio wrth gadarnhau a gweddïo gyda chyplau o’r un rhyw.”
Mae’r Eglwys yn cydnabod y byddai rhoi sêl bendith i’r cynnig yn “benderfyniad dadleuol”.
Croesawu’r cynnig
Mae ymgyrchwyr tros hawliau LGBT o fewn yr Eglwys wedi croesawu’r cynnig.
Dywedodd llefarydd ar ran OneBodyOneFaith fod cefnogi’r cynnig “yn adlewyrchu’r hyn y mae llawer o’n haelodau a’n cefnogwyr yn gwybod sy’n wir – fod yna gefnogaeth eang mewn cymunedau ledled y wlad, ym mhob mathau o gyd-destun, i gadarnhau cyplau o’r un rhyw, a bod ochr yn ochr â nhw wrth iddyn nhw brofi llawenydd a bendith i’w perthynas.”
Gwrthwynebiad
Er gwaetha’r gefnogaeth, mae rhai yn parhau i wrthwynebu’r cynnig.
Yn ôl llefarydd ar ran ymgyrchwyr Reform, sydd wedi bod yn siarad â’r BBC: “Mae priodas yn berthynas hirdymor rhwng dyn a menyw… a dyna ddealltwriaeth y rhan fwyaf o’r Eglwys fyd-eang ers bron i ddau fileniwm.”
Mae priodasau o’r un rhyw wedi’u gwahardd yng Nghymru a Lloegr, ond maen nhw’n gyfreithlon yn yr Alban erbyn hyn.