Iain Duncan Smith
Mae cyn-arweinydd y blaid Geidwadol, Iain Duncan Smith, wedi cynghori aelodau o’i blaid ei hun i beidio â phleidleisio’n groes i’r Llywodraeth mewn cynnig o bleidlais heno (nos Fercher) sy’n galw ar y Llywodraeth i oedi cyn gweithredu cynllun o newidiadau i’r Credyd Cynhwysol.
Yn hytrach, mae’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn eu hannog i gynnig awgrymiadau i’r cynllun newydd.
Fe wnaeth y sylwadau hyn mewn dadl danllyd yn y Senedd heddiw, lle cyhuddodd y Blaid Lafur hefyd o geisio tanseilio’r cynllun er mwyn “rhesymau gwleidyddol byr-dymor”, a hynny wedi iddyn nhw alw ar y Llywodraeth i beidio â’i weithredu yn syth.
Mi fydd y newidiadau, sy’n cyfuno cyfres o fudd-daliadau ynghyd, yn cael eu gweithredu mewn hanner cant o ganolfannau gwaith o fis Hydref ymlaen, gyda’r Llywodraeth yn gobeithio ehangu’r Credyd Cynhwysol.
Ond yn ôl y Blaid Lafur, mae yna nifer o wendidau yn y cynllun newydd hwn, ac maen nhw’n rhybuddio y gall wthio miliwn yn fwy o blant i dlodi erbyn 2020.
Newid bywdau pobol yn “ddramatig”
Eto i gyd, mae Iain Duncan Smith yn mynnu y bydd y newid i’r system yn trawsnewid bywydau pobol “yn ddramatig”, ac mae’n rhywbeth y dylai ei blaid fod yn “falch” ohono.
“Ni fyddaf felly yn cefnogi’r cynnig heno”, meddai, “oherwydd ei bod yn glir yn ei ymdrech i oedi’r cynllun mai gwneud niwed i’r Credyd Cynhwysol er mwyn rhesymau gwleidyddol byr-dymor yw’r nod.”