Nicola Sturgeon (Trwydded Llywodraeth Agored 1.0)
Mae’r fferm wynt gyntaf yn y byd i nofio ar wyneb y dwr yn cael ei hagor yn swyddogol gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, heddiw.
Mae tyrbinau gwynt y prosiect Hywind yn gorchuddio tua 2.5 milltir sgwâr ar y môr tua 15 milltir o’r lan yn Sir Aberdeen, ac fe fyddan nhw’n gallu cynhyrchu digon o drydan i 20,000 o dai.
“Mae’r Alban wedi datblygu enw da yn rhyngwladol am dechnolegau ynni modern, adnewyddadwy ac mae Hywind – y fferm wynt gyntaf yn y byd sy’n nofio – yn brawf o hynny,” meddai Nicola Sturgeon.
“Mae’r cynllun peilot yma’n tanlinellu potensial adnoddau gwynt y môr ac yn rhoi’r Alban ar flaen y gad ryngwladol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg gwynt.
“Yn ogystal â manteisio gwyrdd ynni adnewyddadwy, mae hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn i’n heconomi.”