Protest yn erbyn ffracio yn Llundain Llun: PA
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n cyflwyno gwaharddiad ar ffracio.
Daw eu penderfyniad yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus oedd yn cynnwys 60,000 o ymatebion gyda 99% yn gwrthwynebu ffracio.
“Ni all, ac ni fydd ffracio yn cymryd lle yn yr Alban,” meddai Paul Wheelhouse, y Gweinidog Ynni.
“Gallaf gadarnhau mai casgliad Llywodraeth yr Alban yw na fyddwn ni’n cefnogi datblygiad o nwy ac olew anghonfensiynol yn yr Alban.”
‘Buddugoliaeth anferthol’
Wrth groesawu’r penderfyniad dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear yr Alban fod y penderfyniad am gael “ei groesawu gan y wlad ac ar draws y byd.”
“Mae hwn yn fuddugoliaeth anferthol i’r symudiad gwrth-ffracio, yn enwedig y rheiny ar y llinell flaen o’r diwydiant budur yn yr Alban, sydd wedi bod yn gweithio tuag at waharddiad am y chwe blynedd diwethaf.”
Yn ôl Paul Wheelhouse bydd y llywodraeth yn cyflwyno eu cefnogaeth yn ystod dadl a phleidlais yn ddiweddarach yn y mis.