Mae chweched unigolyn wedi cael ei arestio yn gysylltiedig ag ymosodiad brawychol ar drên tanddaearol yn Llundain yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd y llanc 17 oed ei ddal gan heddlu wedi iddyn nhw gynnal chwiliadau mewn adeilad yn Thornton Heath, de Llundain fore heddiw (Medi 21).
Mae’r chwech unigolyn yn parhau i fod yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain, yn ôl Scotland Yard.
Cafodd 30 o bobol eu hanafu pan ffrwydrodd dyfais ar drên yng ngorsaf Parsosns Green ar Fedi 15.
Daw’r arestiad diweddaraf yn sgil arestiad tri dyn – 25, 30 a 48 blwydd oed – yng Nghasnewydd ddydd Mercher (Medi 20).
“Chwiliadau’n parhau”
“Mae hyn yn parhau i fod yn ymchwiliad sydd yn datblygu’n gyflym,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met. “Mae tipyn o waith wedi ei gyflawni ers ymosodiad ddydd Gwener.
“Bellach, mae gennym chwe unigolyn yn y ddalfa ac mae’r chwiliadau yn parhau mewn pum cyfeiriad. Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliadau eang er mwyn dod o hyd i’r ffeithiau.”