Llun: PA
Mae gweithwyr gyda chwmni bwyd cyflym McDonald’s, yn cynnal eu streic gyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig heddiw – a hynny yn sgil anghydfod am gyflogau ac amodau gwaith.
Fe wnaeth staff mewn dau fwyty yng Nghaergrawnt a Crayford yn ne-ddwyrain Llundain, adael eu gwaith yn sgil anfodlonrwydd am y defnydd o gytundebau dim oriau a chyflogau isel.
Mae’r gweithwyr, sy’n cyfrif am lai na 0.01% o holl weithlu McDonald’s ledled y byd, yn galw am gyflog o leia’ £10 yr awr a rhagor o oriau gwaith.
Jeremy Corbyn yn cefnogi
Mae nifer o undebau llafur wedi dangos eu cefnogaeth i’r streic ac mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, hefyd yn gefnogol.
Mewn datganiad, dywedodd fod ei blaid yn cynnig cefnogaeth i’r gweithwyr “dewr” sydd heddiw yn creu “hanes”.
“Maen nhw’n sefyll i fyny dros hawliau gweithwyr gan arwain y streic gyntaf yn McDonald’s yng ngwledydd Ynys Prydain”, meddai.
Tri chodiad cyflog ers mis Ebrill 2016
Yn ôl McDonald’s, er hynny, mae’r cwmni yn y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno tri chodiad cyflog i’w gweithwyr ers mis Ebrill 2016 – sy’n godiad o tua 15% i’r hyn sy’n cael ei dalu fesul awr.
“Rydym yn falch o’n pobol yn McDonald’s”, meddai llefarydd ar ran y cwmni, “nhw ydy calon yr hyn rydym ni’n ei wneud ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein timoedd yn cael eu trin yn deg.”
Mae tua 40 o weithwyr wedi mynd ar streic ac mae’n debyg y byddan nhw’n rhan o rali sy’n cael ei chynnal yn San Steffan yn ddiweddarach yn y dydd.