Kirsty Williams, Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Mi fydd athrawon newydd sy’n cychwyn dysgu o 1 Fedi ymlaen yn gorfod defnyddio safonau proffesiynol newydd ar gyfer dysgu ac arweinyddiaeth.
Mae’r safonau newydd, sydd wedi cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad gan athrawon ledled Cymru, yn cwmpasu’r elfennau craidd sy’n rhan o waith athrawon o ddydd i ddydd – gan gynnwys addysgu, cydweithio, arwain, arloesi a dysgu proffesiynol hirdymor.
Ymhlith yr amlycaf ohonynt yw’r angen i athrawon gydweithio â’i gilydd yn fwy effeithiol gan wneud yn siŵr bod disgyblion yn cael y gorau posib o’u haddysg.
“Cefnogi athrawon”
Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, mae Llywodraeth Cymru yn “gweld gwerth” yn athrawon Cymru ac eisiau eu “cefnogi” trwy gydol eu gyrfaoedd.
“Yn syml iawn, safon yr athrawon sy’n gwneud system addysg dda”, meddai.
“Ochr yn ochr ag athrawon a rhieni, rwyf innau’n rhannu’r uchelgais i gael proffesiwn sy’n ymroddedig i’r safonau uchaf, i ddysgu gydol oes, ac i gynnal disgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl.”
“Diben y safonau newydd hyn yw sicrhau bod athrawon yn datblygu’r sgiliau cywir gydol eu gyrfaoedd.”
Mae’r safonau’n berthnasol i athrawon cymhwysiedig sy’n cychwyn dysgu ym mis Medi 2018, ac mi fyddan nhw’n dod yn rhan o raglen hyfforddi athrawon o Fedi 2019 ymlaen.