Mae lluoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn wynebu “argyfwng” yn sgil toriadau a bygythiadau newydd, yn ôl uwch swyddog yn yr heddlu.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Gavin Thomas, sy’n Llywydd Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, fod gwasanaethau ledled y wlad yn cael eu rhedeg gan lai o bobol sy’n gweithio oriau hirach.

Yng nghynhadledd y Gymdeithas yn Swydd Warwick heddiw, mi fydd yn annog Ysgrifennydd yr Heddlu, Nick Hurd, i gynnal adolygiad o adnoddau a chyllid yr heddlu.