Mae cwmni cyfathrebu BT wedi cadarnhau y bydd yn cael gwared â 20,000 o giosgs ledled gwledydd Prydain cyn y flwyddyn 2022.

Mae’n rhan o ymgyrch arbed arian, ac mae’n ymateb i’r gostyngiad yn nifer y bobol sy’n defnyddio blychau ffon ers dyfodiad y ffon poced.

Mae BT yn bwriadu cael gwared â 13,400 o giosgs dros y tair blynedd nesaf, gyda’r 6,600 arall yn cael eu sgrapio erbyn 2022.

Mae gan BT gyfanswm o 40,000 o flychau ym mhob cornel o wledydd Prydain. Mae defnydd wedi cwympo 90% yn ystod y degawd diwethaf, ac mae’r gost o gynnal a chadw’r blychau yn £6m y flwyddyn.

Mae bron i 7,000 o flychau BT ar ffurf yr hen focs coch, ac mae cymaint â 2,400 o’r rheiny wedi’u rhestru fel adeiladau Gradd II.

Mae cymaint â 4,300 o giosgs coch eraill wedi’u troi’n orielau celf, yn llyfrgelloedd bychain, yn arddangosfeydd ac yn ganolfannau gwybodaeth.