Mae disgwyl llifogydd mewn rhannau helaeth o wledydd Prydain, gyda’r rhagolygon yn awgrymu y bydd glaw trwm dros y 24 awr nesaf.
Fe allai hyd at 80 milimedr (3.2 modfedd) o law gwympo, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae rhybudd melyn mewn nifer o ardaloedd, gan gynnwys Canolbarth Lloegr, Llundain, Dwyrain Anglia a de-ddwyrain Lloegr.
Mae disgwyl i hyd at 30 milimedr o law gwympo dros gyfnod o ddwy neu dair awr.
Fe allai’r glaw effeithio ar deithwyr, cartrefi a busnesau, ac mae rhybudd i bobol yn Swydd Nottingham a gogledd Lloegr fod ar eu gwyliadwraeth.
Daw’r rhybudd diweddaraf dair wythnos ar ôl llifogydd yng Nghernyw; a chafodd y gwasanaethau brys eu galw i rannau o Swydd Lincoln dros nos.