Mae’r dyn oedd yn cael ei alw’n arwr am atal ymosodiad seibr byd-eang ‘wedi cyfaddef wrth yr heddlu ei fod e wedi creu a gwerthu côd sy’n gallu cymryd manylion banc’.
Dyna mae erlynwyr yn yr Unol Daleithiau’n ei ddweud wrth i Marcus Hutchins o Ddyfnaint wynebu chwe chyhuddiad yn yr Unol Daleithiau o greu a dosbarthu’r rhaglen niweidiol Kronos.
Ond mae’r dyn 23 oed yn bwriadu gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn Las Vegas.
Bydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth gwerth 30,000 o ddoleri (£23,000) ddydd Llun, ar yr amod ei fod yn aros yn yr Unol Daleithiau.
Dadleuon yr erlynwyr
Mae erlynwyr wedi amlinellu’r achos yn ei erbyn, ac mae ganddyn nhw recordiad o’r hyn maen nhw’n ei alw’n gyfaddefiad yn ystod cyfweliad â’r heddlu.
Maen nhw’n dweud ei fod e wedi cyfaddef creu a gwerthu’r côd Kronos, a bod twyll Marcus Hutchins a dyn arall nad yw e wedi cael ei ddal eto wedi cael ei ddarganfod gan yr heddlu, oedd wedi prynu’r côd.
Mae erlynwyr yn honni bod yr heddlu, oedd yn gweithredu’n gudd ar y pryd, wedi prynu’r côd am 2,000 o ddoleri (£1,522) ym mis Mehefin 2015.
Mae’r erlynwyr hefyd wedi cyfeirio at gyfres o sgyrsiau rhwng y ddau ddyn lle’r oedd Marcus Hutchins yn cwyno nad oedd e wedi derbyn digon o arian am ei ran yn y twyll.
Maen nhw’n honni bod yr holl droseddau wedi’u cyflawni rhwng mis Gorffennaf 2014 a mis Gorffennaf 2015.
Ond mae’r amddiffyniad yn honni bod Marcus Hutchins wedi defnyddio’r rhyngrwyd “i wneud pethau da”.
Bydd e’n ymddangos gerbron llys yn Wisconsin eto ddydd Mawrth, ac mae disgwyl iddo fe bledio’n ddieuog bryd hynny.