Darlun Wynne Melville Jones
Mae deiseb genedlaethol wedi cael ei threfnu ar y we yn galw ar Lywodraeth Cymru i goffáu trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn eleni.
Er bod yna lawer o ddathlu eisoes wedi bod eleni, mae nifer yn credu y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rhan wrth gydnabod cyfraniad y Pêr Ganiedydd o Lanymddyfri a wnaeth ysgrifennu dros 900 o emynau.
Williams yn ffigwr o “bwys cenedlaethol”
Yn ôl Aled Gwyn Job, sy’n gweithio i’r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru ac sy’n un o drefnwyr yr e-ddeiseb, mae’n bwysig ein bod fel cenedl yn dathlu Williams Pantycelyn fel “eicon cenedlaethol”.
“Rydym ni [fel cymundeb] wedi bod yn trefnu dathliadau ein hunain yn ystod y flwyddyn,” meddai, “ac mae’r dathliadau yna wedi bod yn bwysig mewn tanlinellu pwysigrwydd Williams i ni fel cymundeb ac o fewn y traddodiad ffydd ei hun.”
“Ond ein teimlad ni yw ei fod yn fwy na ffigwr o fewn y traddodiad ffydd a’i fod yn ffigwr o bwys cenedlaethol i Gymru hefyd a’i bod hi’n bwysig iawn i’r genedl gyfan wybod amdano ac i ddysgu amdano.”
“Yn y diben hwnnw, roeddem ni’n meddwl pam na allwn ni ddeisebu’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i wneud hynny.”
Artist yn cefnogi’r ddeiseb
Un sydd wedi croesawu’r e-ddeiseb fel “syniad gwych” yw’r artist o Geredigion, Wynne Melville Jones, sydd wedi paentio darlun o ffermdy Pantycelyn yn ddiweddar er mwyn coffáu’r bardd a’r emynydd.
“Bu impact Williams Pantycelyn,” meddai, “yn sylweddol iawn ar grefydd a diwylliant Cymru a thu hwnt am dros dair canrif ac mae’r mwyafrif o’r Cymry naill ai wedi canu neu wedi clywed ei waith mewn cyfarfodydd crefyddol, cyngherddau ac ar feysydd rygbi.”
“Rwy’n croesawu’r ddeiseb hon ac mae’n bwysig bod ein sefydliadau cenedlaethol a lleol yn cydnabod pwysigrwydd Cof Cenedl.”
Mae’r e-Ddeiseb i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn ôl y rheolau, mae angen 5,000 o lofnodion arni cyn y bydd yn cael ei thrafod ar lawr Siambr y Cynulliad.