Bydd y Babell Lên yn edrych yn wahanol iawn i'r arfer eleni
Mi fydd ymwelwyr â’r Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni yn camu i mewn i babell wahanol iawn i’r arfer.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd llun ei drydar o lwyfan y Babell Lên ar ei newydd wedd gyda hen lwyfan moel ac agored y gorffennol bellach wedi cael ei drawsnewid i fod yn un llawn soffas, byrddau a chadeiriau cyfforddus – yn ogystal â llenni coch yn gefnlen.

Y cam iawn.

Un sydd wedi perfformio’n flynyddol ar lwyfan y Babell ers blynyddoedd mewn talyrnau ac ymrysonau yw’r bardd Eurig Salisbury a heddiw fe fydd yn gapten ar dîm Y Glêr yn ffeinal Y Talwrn.

Wrth ymateb i’r llun, dywedodd wrth golwg360 fod y trawsnewidiad yn edrych fel “cam i’r cyfeiriad cywir” a bod ychydig o naws Gŵyl y Gelli yn perthyn iddo.

“Fel rhywun sydd wedi cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli,” meddai, “dw i’n gwybod ei fod e’n bwysig iawn rhoi’r llwyfan at ei gilydd, a dw i’n meddwl ei fod yn neis ar ôl cynifer o flynydde bod y Babell Lên wedi penderfynu newid.”

Eto i gyd, mae’n cael yr argraff fod y llwyfan yn ymddangos “braidd yn brysur” ar hyn o bryd.

“Os y’ch chi’n ei gymharu gyda Gŵyl y Gelli, mae nhw’n defnyddio lot o ganfasau duon ac yn cadw pethe’n eitha syml,” meddai.

“Efallai fod yna or-wneud yn fan hyn, ond tan fy mod i wedi ei weld yn iawn, mae’n anodd dweud.”

Y beirdd yn fwy ymlaciol

O ran Y Talwrn a’r Ymryson, mae’r Prif Lenor yn credu y gall y ddwy gystadleuaeth gael eu cynnal yn “unrhyw le”, pe bai rhaid.

“Os yw e’n edrych yn well ar y teledu ac yn edrych yn well i’r gynulleidfa sydd ʼna, ac os yw’r beirdd yn edrych yn fwy cyfforddus, yna efallai y bydd hwnna’n beth da.”

“O ran profiad y gynulleidfa, mae’n siŵr mai’r peth gore y gall unrhyw un wneud yw gwella’r seddi sydd yna i eistedd arnyn nhw, dy’n nhw ddim yn gallu bod y peth mwya’ cyfforddus i eistedd arnyn nhw, felly tybed os yw’r rheina wedi newid.”

Eisteddfod Môn wedi cychwyn neithiwr

Dechreuodd yr Eisteddfod neithiwr gyda chyngerdd agoriadol arbennig yn y Pafiliwn oedd wedi ei hysbrydoli gan hanes Hedd Wyn.

Cafodd y perfformiad ei ddarlledu’n fyw ar S4C.