Cian Ciaran
Mae un o aelodau’r grŵp poblogaidd y Super Furry Animals wedi cyfrannu cerddoriaeth at arddangosfa gwrth-niwclear yn Ynys Môn.
Cafodd ‘Fukushima →Cymru’ ei threfnu gan Pobol Atal Wylfa B (PAWB), a’i nod fydd tynnu sylw at effaith ymbelydredd ar yr amgylchedd ac ar bobol.
Yn 2011 fe aeth Cian Ciaran i Japan i weld y sefyllfa yn dilyn damwain niwclear yn Fukushima.
Fe fydd yr arddangosfa yn agor yfory ac mae Cian Ciaran, mwythwr allweddellau’r Super Furries, wedi bod yn sôn wrth golwg360 am ei wrthwynebiad tuag at ynni niwclear a’i bryderon am effaith y diwydiant yng Nghymru.
Nid yw’r cerddor sy’n wreiddiol o Fôn o blaid adeiladu atomfa Wylfa Newydd ar yr ynys.
“Pan mae llefydd yn cael eu hystyried [ar gyfer codi atomfa niwclear] mae yna asesiad risg, a’r risg ydy bod yna bosibiliad eith pethau o’i le,” meddai Cian Ciaran.
“Felly lle ydych chi’n rhoi’r [gorsafoedd pŵer]? Mor bell i ffwrdd o Lundain ag sy’n bosib. Nid anrheg yw hyn i bobol o Gymru. Does dim dewis gan bobol leol. Mae’n ddiwydiant llawn risgiau, a risgiau sydd i mi yn ddiangen.
“Wnes i ddarllen rhywbeth am ddyfodol ynni niwclear yng Nghymru gan ryw bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin, ac oedd sôn am SMRs [adweithyddion modiwlar bach]. Pethau fel hyn sydd yn corddi fi. Credu bod o’n gwneud synnwyr rhoi o yn Nhrawsfynydd er mwyn arbed pres i’r Llywodraeth. Yn lle meddwl am ein plant ac iechyd a dyfodol cenedl, maen nhw’n meddwl am y pres.”
Ffloc a Fukushima
Bydd Cian Ciaran yn cyflwyno’r gerddoriaeth ar gyfer yr arddangosfa newydd ar y cyd â Meilyr Tomos gan gynnig cyfeiliant i fideo arbennig.
Y cywaith creadigol, Ffloc, sydd yn gyfrifol am y fideo sy’n cynnwys delweddau o Fukushima – safle damwain niwclear ddifrifol yn 2011.
“Ymateb yw’r gerddoriaeth i’r gwaith celf,” meddai Cian Ciaran. “A hefyd ymateb i’r newyddion a’n magwraeth a fy mhryderon fy hun. Ymgais i greu atmosffer a gosod y tôn.”
Teithiodd y cerddor i Fukushima yn 2013, gan ymweld ag ardal 40km i ffwrdd o’r orsaf bŵer – profiad “sinistr” meddai sydd wedi cael effaith ar y sainlun.
Bydd ‘Fukushima →Cymru’ i’w weld yn Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch, Môn rhwng Sad 5- Iau 31 Awst 2017.