(llun: PA)
Dywed Maer Llundain, Sadiq Khan, ei fod yn ‘optimistaidd’ fod siawns i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’n galw ar y Blaid Lafur i ddatblygu safbwynt clir ar yr Undeb Ewropeaidd, wrth i wahaniaethau barn o fewn y blaid ddod yn fwyfwy amlwg o hyd.
Yn ôl Sadiq Khan, mae dwy ffordd o osgoi Brexit – yn gyntaf petai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf gyda ymrwymiad i beidio â gadael yr UE, neu’n ail, wrth gynnal ail refferendwm.
“Byddai’n rhaid i faniffesto Llafur ddatgan mewn du a gwyn beth fydden ni’n ei wneud pe baen ni’n ennill yr etholiad cyffredinol,” meddai Maer Llundain mewn adroddiad ym mhapur newydd The Guardian.
“Yr hyn a allai drympio canlyniad y refferendwm yw i ni gael cynnig yn ein maniffesto yn dweud na fydden ni ddim yn gadael yr UE, neu y bydden ni’n cael ail refferendwm.”
Daw ei sylwadau ar ôl i arweinydd Llafur Jeremy Corbyn ddweud bod ar ei blaid eisiau i Brydain adael y farchnad sengl, tra bod y llefarydd ar Brexit, Syr Keir Starmer, yn dweud na ddylid diystyru unrhyw ddewis.