Mae chwaraewr rygbi’r gynghrair o Sir Gaer wedi marw yn dilyn gêm.

Roedd Adam Cooper, 31, yn chwarae i’r Culcheth Eagles ym mhedwaredd adran Cynghrair Gogledd-orllewin Lloegr.

Roedd e’n chwarae mewn gêm yn Runcorn pan gafodd ei daro’n wael.

Mewn datganiad, gofynnodd ei glwb am breifatrwydd i’w deulu ac fe fydd munud o gymeradwyaeth gyn gemau ieuenctid y clwb heddiw.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans ei fod e wedi marw yn yr ysbyty.

Mae’n gadael dyweddi a thri o blant.