Caroline Aherne (Llun: Observer profile)
Dylai’r actores a’r awdures gomedi Caroline Aherne dderbyn gwobr BAFTA, yn ôl ei chyd-actor yn y gyfres The Royle Family, Ricky Tomlinson.

Daw ei sylwadau union flwyddyn ar ôl marwolaeth yr actores oedd yn chwarae ei ferch yn y gyfres, yn 52 oed.

Dywedodd wrth bapur newydd y Mirror: “Dydy BAFTA ddim yn aml yn rhoi cymrodoriaeth os nad ydych chi’n fyw – ond os yw unrhyw un yn haeddu gwobr arbennig gan y diwydiant teledu Prydeinig, Caroline yw honno.”

Enillodd Caroline Aherne dair gwobr BAFTA yn sgil y gyfres rhwng 2000 a 2007, yn ogystal â gwobr am ei chymeriad Mrs Merton yn 1997.

Roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei rhannau yn y cyfresi The Fast Show a Gogglebox.