Iris Jones fel y cymeriad Beryl yn Pobol y Cwm (Llun cyhoeddusrwydd BBC Cymru)
Bu farw’r actores o Bwllheli, Iris Jones. Roedd hi’n 82 oed ac wedi cael gyrfa hir ym myd teledu.

Fe ddaeth i amlygrwydd gyntaf fel un o’r cyhoeddwyr rhwng rhaglenni gyda chwmni teledu TWW ac wedyn gydag HTV.

Ond roedd bryd yr actores a gafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, ar bortreadu cymeriadau – ac fe ddaeth i amlygrwydd yng nghyfres Minafon.

Rhwng 1997 a 2005, bu’n portreadu cymeriad Beryl Nicholas, mam y cymeriad Casi, yn yr opera sebon Pobol y Cwm.