Fe ddylid rhoi’r gorau i wario’r arian sydd ar hyn o bryd yn mynd i gynorthwyo gwledydd tramor, a’i ddargyfeirio er mwyn rhoi codiad cyflog i weithwyr y sector gyhoeddus – dyna ddadl un o gyn-weinidogion y Torïaid.

Cafodd codiadau cyflog gweithwyr y sector gyhoeddus eu rhewi am ddwy flynedd yn 2010 ac ers 2013 mae eu cyflogau wedi bod yn cynyddu 1% pob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth tramor, ond mae rhai yn y Blaid Geidwadol yn anhapus â’r gwariant.

Mae’r Aelod Seneddol Robert Halfon yn dweud y dylai cyllideb cymorth tramor gael ei wario ar godi cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus.

“Dw i’n credu ein bod ni’n wynebu sefyllfa anodd lle mae gweithwyr y sector gyhoeddus yn cael trafferth yn ymdopi, yn enwedig y gweithwyr sydd ar gyflogau is,” meddai Robert Halfon ar raglen Today, BBC Radio 4.

“Felly, dw i’n credu – tra bod yr economi fel y mae hi ar hyn o bryd – dylwn droi at gyllidebau dydyn ni ddim fel arfer yn cyffwrdd fel y gyllideb cymorth tramor, a dylwn ddefnyddio hynna i helpu gweithwyr y sector gyhoeddus sydd ar y cyflogau isaf.”