Mae maes awyr mwyaf yr Alban mewn tywyllwch, wedi toriad yn y cyflenwad trydan.
Mae awyrenfa Caeredin wedi trydar y diweddaraf, gan ddweud mai diogelwch teithwyr sydd flaenaf ar feddyliau’r awdurdodau yno.
“Gweithiwch efo ni, os gwelwch yn dda,” meddai’r neges, “tra’r ydan ni’n cywiro’r sefyllfa.”
Fe gollodd y maes awyr ei gyflenwad trydan tua 9yb, ac oddi ar hynny mae teithwyr wedi bod yn aros mewn ciwiau hir yn y tywyllwch, gyda’u bagiau a’u cesys.