Emmanuel Macron
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi gwahodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i ddathliadau Diwrnod Bastille fis nesaf.
Yn ogystal, mae’n gan mlynedd eleni ers i filwyr Americanaidd lanio yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd Donald Trump a’i wraig Melania eu gwahodd ddydd Mawrth yn ystod sgwrs ffôn wrth i’r ddau arweinydd baratoi i gyfarfod yn ystod uwchgynhadledd G20 yn yr Almaen fis nesaf.
Fe fydd gorymdaith filwrol ar y Champs-Elysées ym Mharis ar Ddiwrnod Bastille, sef Gorffennaf 14, ac mae’r Tŷ Gwyn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o anfon Donald Trump i’r digwyddiad, yn ôl llefarydd.
Mae’r ddau arweinydd eisoes wedi trafod eu hymateb pe bai ymosodiad cemegol ar Syria.