Yr actor Peter Sallis yn y gyfres Last of the Summer Wine, gyda Bill Owen (Compo) a Brian Wilde (Foggy) Llun; PA
Mae’r actor Peter Sallis, a ddaeth yn adnabyddus yn actio y gyfres Last of the Summer Wine, wedi marw yn 96 oed.

Roedd hefyd yn enwog fel llais Wallace yn y ffilmiau animeiddiedig Wallace and Gromit.

Dywedodd ei asiant ei fod wedi marw gyda’i deulu wrth ei ochr yn Denville Hall ger Llundain, ddydd Gwener, 2 Mehefin.

Daeth yn enwog yn y Deyrnas Unedig yn chwarae Norman Clegg yn y gyfres gomedi Last Of The Summer Wine.

Ond wrth chwarae Wallace yn ffilmiau animeiddiedig Nick Park, daeth ei lais yn enwog ar draws y byd.