Mae’r ymgeisydd Ceidwadol wnaeth lwyddo i drechu ymgais Nigel Farage i gaeth ei ethol yn Aelod Seneddol yn 2015, wedi ei gyhuddo o gamwario arian adeg yr etholiad cyffredinol ddwy flynedd yn ôl.

Fe gafodd Craig Mackinlay ei ethol yn Aelod Seneddol tros De Thanet yng Nghaint yn 2015.

Ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ei gyhuddo o fethu dilyn y rheolau ar gyfer cofnodi gwario arian adeg yr ymgyrch, ac mae disgwyl i’r ymgeisydd Ceidwadol ymddangos ger bron Llys Ynadon San Steffan fis Gorffennaf.

Mae Craig Mackinlay wedi ei gyhuddo o gofnodi bod criwiau mewn bysus fu’n ymgyrchu drosto yn Ne Thanet, yn wariant gan y Blaid Geidwadol yn genedlaethol. Yr honiad yw y dylai fod wedi cofnodi bod y gwariant yn lleol.

Yn ôl y Blaid Geidwadol nid oes unrhyw sail i’r cyhuddiad.

Ond o’i gael yn euog, fe allai Craig Mackinlay wynebu hyd at flwyddyn dan glo.

Mae Nigel Farage wedi croesawu’r penderfyniad i erlyn ac wedi cyhuddo Theresa May o fod ar fai yn gadael i Craig Mackinlay sefyll eto ar ran y Ceidwadwyr yn Ne Thanet.

“Pam yn y byd fyddech chi yn caniatáu i rywun fod yn ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol pan roedd y cwmwl yma uwch ei ben?

“Unwaith yn rhagor dyma benderfyniad gwael gan Theresa May,” meddai Nigel Farage.