Rolf Harris ym Mhrifysgol Bangor (Llun:Gerallt Llewelyn)
Mae’r cyn-ddiddanwr Rolf Harris wedi cael ei ryddhau o garchar Stafford.

Gan ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth bydd y seren deledu yn medru ymddangos yn y cnawd gerbron Llys y Goron Southwark wrth i’w achos barhau ddydd Llun.

Mae Rolf Harris yn gwadu pedwar cyhuddiad o ymosodiadau anweddus yn erbyn tair dynes rhwng 1971 a 1983.

Mae rheithwyr eisoes wedi clywed bod Rolf Harris, 87, wedi ei farnu’n euog a’i ddedfrydu i garchar yn 2014 am droseddau rhywiol.

Dywedodd y Barnwr Deborah Taylor ddydd Iau: “Ni fydd [Rolf Harris] yn ymddangos trwy ffrwd fideo o hyn ymlaen, ac mi fydd yn dod i weddill y treial yn y cnawd.”