Murlun 50 y Lolfa
Mae Gwasg y Lolfa wedi creu fideo o negeseuon yn dymuno yn dda iddyn nhw ar y pen-blwydd yn hanner cant, gyda sawl awdur adnabyddus a Chymry enwog i’w gweld… mae’r fideo ar waelod y stori hon.

Hefyd mae’r artist fu’n gyfrifol am y murlun ar briffordd yr A487 yn Nhal-y-bont, wedi creu un newydd i nodi hanner can mlynedd gwasg Y Lolfa.

Yn ei darn newydd, mae Ruth Jên wedi hel ynghyd rhai o uchafbwyntiau’r wasg ers 1967 gan gynnwys darluniau o gymeriadau Rala Rwdins, Eirwyn Pontshân a brain y nofel Martha, Jac a Sianco.

Bydd y murlun yn cael ei ddangos ym mharti dathlu’r Lolfa yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth nos Sadwrn a’i arddangos wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

‘Cyfnod o gyffro a newid’

Yn rhan o’r dathliadau, mae’r Lolfa wedi ailgyhoeddi fersiwn o’i llyfr cyntaf Hyfryd Iawn gan y cartwnydd Elwyn Ioan a Robat Gruffudd wnaeth gofnodi geiriau Eirwyn Pontshân.

“Cafodd y llyfr ei ganmol ar y pryd am wreiddioldeb ei gynnwys a’i ddiwyg ac rwy’n credu ei fod yn dal i gynrychioli safbwynt hwyliog, Cymreig, annibynnol y wasg,” meddai Robat Gruffudd, sylfaenydd y wasg.

“Yr un hefyd yw nod y wasg heddiw ag o’r blaen. Mae hwn hefyd yn gyfnod o gyffro a newid ac mae’r angen yn fwy nag erioed i annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig,” ychwanegodd Robat Gruffudd.

Ers ei sefydlu yn 1967 mae’r wasg yn cyflogi 20 o staff llawn amser erbyn hyn ac yn gwneud trosiant o £1m y flwyddyn, a hanner hynny’n dod o’r gwasanaeth argraffu.

Maen nhw wedi creu fideo arbennig i ddathlu’r garreg filltir, gyda rhai o awduron y wasg ac enwogion Cymru’n dymuno’n dda iddi.