O wefan y cwmni
Instagram yw’r gwaetha’ o’r cyfryngau cymdeithasol o ran ei heffaith ar iechyd meddwl pobol ifanc, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd Cyhoeddus (RSPH) mae’r app rhannu lluniau’n gwneud i bobol golli cwsg ac i deimlo’n anhapus am eu hymddangosiad.
Wrth lunio’r adroddiad, roedd RSPH wedi cynnal arolwg â 1,479 o bobol ifanc rhwng 14 a 24 blwydd gan ofyn iddyn nhw roi sgôr i bob gwefan o ran eu heffaith ar eu hiechyd meddwl.
Daeth i’r amlwg mai YouTube oedd â’r sgôr ucha’ gyda Trydar yn ail ac Instagram yn ola’.
Gorbryder
“Does dim modd osgoi’r cyfryngau cymdeithasol fel ffactor wrth drafod iechyd meddwl pobol ifanc bellach,” meddai Prif Weithredwr RSPH, Shirley Cramer.
“Mae’n ddiddorol gweld Instagram a Snapchat ymysg y gwaetha’ – dau lwyfan rhannu delweddau – ac mae’n ymddangos eu bod yn gwneud i bobol deimlo’n bryderus ac yn israddol.”
Yn sgil yr arolwg mae’r RSPH wedi argymell y dylai gwefannau cyfryngau cymdeithasol gyflwyno sustem i hysbysu defnyddwyr pan maen nhw wedi bod yn defnyddio’r wefan am ormod o amser.