Leanne Wood (llun senedd tv)
Mae arweinydd Plaid Cymru yn Ynys Môn heddiw i lansio cynllun y blaid ar gyfer Cymru wedi Brexit.
Ar ymweliad â chwmni Halen Môn, fe fydd Leanne Wood yn dweud y byddai cynllun ei phlaid yn sicrhau bod economi Cymru yn gadarn wrth I’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Blaid yn dweud bod cyfleoedd yn dod yn sgil Brexit, ac yn galw am ddatganoli’r hawl i newid cyfraddau treth ar werth, yn ogystal â symud tuag at system fewnfudo unigryw i Gymru.
‘Cymryd y cyfleoedd’
“Mae cynllun positif ôl-Brexit Plaid Cymru wedi’i lunio i ddod dros y bygythiadau a chymryd y cyfleoedd rydym ni nawr yn eu hwynebu fel cenedl yn y cyd-destun newydd hwn,” meddai Leanne Wood.
“Wrth wraidd y cynllun hwn mae ymrwymiad i gydnabod canlyniad y refferendwm a sicrhau economi Cymreig cadarn wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Dywed Leanne Wood fod y cynllun yn cynnwys mesurau i ddiogelu swyddi, cadw cysylltiadau masnachu presennol a meithrin rhai newydd.
“Ar ben hyn, byddwn yn brwydro i sicrhau bod y £30 miliwn yr wythnos gafodd ei addo i Gymru yn ystod y refferendwm yn cael ei ddelifro gan San Steffan.”
Manylion y cynigion
- Datganoli pwerau treth ar werth.
- Fisas rhanbarthol ledled gwledydd Prydain – i sicrhau nad yw Cymru’n wynebu ‘bwlch sgiliau’.
- Deddfu i sicrhau bod busnesau lleol yn cael cytundebau cyhoeddus – mae hynny, ar hyn o bryd, yn groes i reolau’r Undeb Ewropeaidd.
- Mae’r blaid yn honni y byddai hyn yn creu 50,000 o swyddi newydd ac yn hybu’r economi leol ledled y wlad.
Mae’r pleidiau yn ôl yn ymgyrchu at yr Etholiad Cyffredinol heddiw wedi diwrnod o seibiant fel arwydd o barch tuag at y diweddar cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a fu farw ddoe.