Mae dyn anhysbys o wledydd Prydain wedi cael ei ddisgrifio fel “arwr” ar ôl gwarchod cannoedd o filoedd o gyfrifiaduron rhag yr ymosodiad seibr sydd wedi taro 99 o wledydd.
Llwyddodd y firws i effeithio ar gyfrifiaduron y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a’r Alban, gan achosi cryn oedi a gorfodi llawdriniaethau i gael eu canslo.
Cafodd enw parth ei gofrestru gan y dyn anhysbys mewn ymgais i atal y firws, ond fe gyfaddefodd nad oedd e’n gwybod y byddai hynny’n atal y firws rhag lledu.
Mae’r Ganolfan Diogelwch Seibr Genedlaethol wedi canmol y weithred.
Ond mae’r dyn wedi rhybuddio y byddai’n hawdd iawn i hacwyr ail-greu’r firws unwaith eto oni bai bod camau’n cael eu cymryd i atal y firws.