Mae prif weithredwr Barclays wedi ymddiheuro am dorri’r rheolau sydd mewn lle i warchod y rheiny sy’n chwythu’r bib ar gamymddwyn.
Mae Jes Staley wedi dweud wrth gyfarfod cyffredinol blynyddol y banc yn Llundain ei fod wedi “gwneud camgymeriad” wedi iddo fynd ati i drïo adnabod rhywun o fewn y cwmni oedd wedi chwythu’r bib.
Mae buddsoddwyr wedi cael eu hannog i atal eu pleidlais rhag ei ail-ethol i’w swydd, ac mae hi wedi dod i’r amlwg y bydd ei gyflog yn cael ei dorri oherwydd iddo fethu â’t mater hwn yn y ffordd briodol.
“Dw i’n teimlo ei bod hi’n bwysig i mi gydnabod o’ch blaen chi – ein cyfranddalwyr – fy mod i wedi gwneud camgymeriad trwy ddod yn rhan o fater y dylwn i fod wedi gadael i’r cwmni ddelio ag o,” meddai Jes Staley wrth y cyfarfod blynyddol.
“Dw i wedi ymddiheuro i’r bwrdd, ac mi hoffwn i heddiw ymddiheuro i chithau hefyd am y camgymeriad.”